SL(5)170 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r bandiau treth a'r cyfraddau treth canrannol cyntaf ar gyfer y dreth trafodiadau tir ("LTT") a gyflwynir gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

 

Mae'r bandiau treth a'r cyfraddau treth canrannol yn y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â thrafodion trethadwy gyda dyddiad effeithiol o 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.

 

Mae bandiau treth a chyfraddau treth canrannol ar wahân yn berthnasol i:

·         Trafodiadau eiddo preswyl;

·         Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;

·         Trafodiadau eiddo amhreswyl ac

·         Ystyriaeth sy'n daladwy sy'n cynnwys rhent.

 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd y pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.     Yn dilyn gosod y bandiau treth a'r cyfraddau treth canrannol yn y Rheoliadau hyn, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i newid neu gyflwyno bandiau newydd a chyfraddau newydd ar gyfer LTT yn syth (gweithdrefn gadarnhaol dros dro - Adran 25 y Dreth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017).

[Rheol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad]

2.     Bydd y bandiau treth a'r cyfraddau treth canrannol yn berthnasol i drafodiadau sy'n destun LTT. Bydd rhai trafodiadau y bydd ganddynt ddyddiad effeithiol ar ôl y dyddiadau mynd yn fyw a allai barhau i fod yn destun Treth Tir y Dreth Stamp 'SDLT' yn unol â Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 a Deddf Cymru 2014 .

[Rheol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad]

3.     O dan yr Atodlen yn y Rheoliadau hyn, Tabl 4, nid yw 'band cyfradd sero NRL' wedi'i ddiffinio. Fodd bynnag, caiff ei ddiffinio o dan Baragraff 28, Atodlen 6 i'r Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Er bod ymadroddion a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth yn meddu ar yr ystyr sydd iddynt yn y rhiant Ddeddf (oni bai yr ymddengys fod yna fwriad croes) byddai croesgyfeiriad at y diffiniad o 'fand cyfradd sero NRL' yn Neddf 2017 yn ddefnyddiol o safbwynt eglurder a hygyrchedd.

[Rheol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad]

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Nid oes dim.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r ddau bwynt cyntaf sydd yn yr adran ‘craffu ar rinweddau’ o’r adroddiad.

 

O ran y trydydd pwynt rhinweddau, yn ein barn ni nid oes angen diffinio’r ymadrodd y cyfeirir ato yn yr adroddiad, fel mater o gyfraith. Mae adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978, sy’n gymwys i is-ddeddfwriaeth a wneir yng Nghymru a Lloegr, yn darparu, “Where an Act confers power to make subordinate legislation, expressions used in that legislation have, unless the contrary intention appears, the meaning which they bear in an Act”. Gan fod yr ymadrodd y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn cael ei ddiffinio yn y rhiant-ddeddf, mae Deddf Dehongli 1978 yn trosglwyddo’r diffiniad i’r offeryn yn awtomatig. Nid oes angen unrhyw ddarpariaeth bellach, felly, i gael yr effaith hon.

 

Rydym hefyd o’r farn fod yr offeryn arbennig hwn yn cydblethu â’r rhiant-ddeddf mewn ffordd unigryw.  Fel y bydd yr Aelodau yn nodi, mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer un elfen o’r fformiwla (y cyfraddau a’r bandiau) a ddefnyddir i gyfrifo swm y dreth sy’n daladwy, ac mae gweddill elfennau’r fformiwla honno wedi’u cynnwys yn y rhiant-ddeddf.  Rydym yn credu, am y rheswm hwn, y bydd yr offeryn hwn yn cael ei ddarllen ochr yn ochr â’r rhiant-ddeddf, ac felly nid yw’r ffaith nad oes diffiniad ychwanegol o LA yn bygwth eglurder na hygyrchedd yr offeryn hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

11 Ionawr 2018